Our Opponents This Weekend: Swindon Town FC

This Sunday, we’re delighted to welcome Swindon Town to Newport Stadium for what promises to be a thrilling encounter in the Adobe FA Cup. The match marks another exciting chapter in our shared history.

A Brief Look at Swindon Town

Swindon Town Women have built an impressive legacy since their founding in 1993, and their affiliation with EFL side Swindon Town has helped them grow steadily over the years. Since joining the FA Women’s National League in 2014/15, they’ve faced the ups and downs of competitive football, achieving promotion to the third tier in 2016 and showcasing their resilience ever since. As Cardiff City Ladies, we have shared some close and memorable encounters over the years, with a habit of both teams bringing out the best in each other.

Swindon’s Recent Successes

Last season saw Swindon set their highest points record since joining the league and advancing to the FA Cup second round. They also put on strong showings in the league cup, marking them as a team on the rise. This season, they’ve continued their momentum and currently lead the Southwest Division, unbeaten in their last nine games, with 50 goals across all competitions. Their captain, Annie Colston, has been instrumental in this success, scoring ten goals so far this season. She scored two goals against us a couple of seasons ago, so she will certainly be someone to watch.

Both Gwalia United and Swindon Town bring heart, skill, and ambition to the pitch, and we look forward to an exciting and hard-fought game.

Y Penwythnos Hwn, rydym yn falch o groesawu Swindon Town i Stadiwm Casnewydd ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn ornest gyffrous yng Nghwpan Adobe FA. Mae’r gêm hon yn nodi pennod gyffrous arall yn ein hanes cyffredin.

Gwybodaeth Fer am Swindon Town

Mae Merched Swindon Town wedi adeiladu etifeddiaeth drawiadol ers eu sefydlu yn 1993, ac mae eu cysylltiad â chlwb EFL Swindon Town wedi eu cynorthwyo i dyfu’n barhaus dros y blynyddoedd. Ers iddynt ymuno â Chynghrair Genedlaethol Merched FA yn 2014/15, maen nhw wedi wynebu’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau sy’n rhan annatod o’r gêm gystadleuol, gan ennill dyrchafiad i’r drydedd haen yn 2016 a dangos eu gwytnwch ers hynny. Fel Cardiff City Ladies, rydym wedi rhannu rhai cyfarfodydd clos a chofiadwy dros y blynyddoedd, gyda’r ddau dîm yn aml yn codi safon ei gilydd.

Llwyddiannau Diweddar Swindon

Y tymor diwethaf gwelwyd Swindon yn gosod eu record uchaf o ran pwyntiau ers ymuno â’r gynghrair ac yn cyrraedd ail rownd Cwpan FA. Roeddent hefyd yn serennu yng Nghwpan y Gynghrair, gan amlygu eu bod yn dîm sy’n esgyn. Eleni, maen nhw wedi parhau â’u momentwm ac ar hyn o bryd maen nhw’n arwain yr Adran De Orllewin, heb eu curo yn eu naw gêm gynghrair ddiwethaf, gan sgorio 50 gôl ar draws pob cystadleuaeth. Mae eu capten, Annie Colston, wedi bod yn allweddol yn y llwyddiant hwn, gan sgorio deg gôl hyd yma’r tymor hwn. Sgoriodd hi ddwy gôl yn ein herbyn ni ychydig o dymhorau yn ôl, felly bydd hi’n sicr yn chwaraewraig i gadw llygad arni.

Mae Gwalia United a Swindon Town ill dau yn dod â chalondid, sgil a dyhead i’r cae, ac rydym yn edrych ymlaen at gêm gyffrous a chystadleuol iawn.

Latest News